1. |
Aur Du a Gwyn
03:21
|
|||
Aur du a gwyn
Dwi di bod ben fy hun,
dros pob gorwel a llun,
Ond dal i droi mae’r byd ‘run fath.
Mae’n wir am bob dyn,
Cefndir du, cefndir gwyn,
Yr 'run fath sydd ym mhob sach.
Gei di gymryd i ffwrdd ein cynefin,
A fydd rhywun yn siŵr o dy ddilyn,
Da ni’n frodyr i gyd, does dim gelyn,
A nid aur yw popeth melyn.
Ma na ddywediad fan hyn,
Sydd ‘run fath dros pob bryn,
Nid aur yw popeth melyn.
O beth sydd mor ffôl
Am gymryd cam bach yn nol.
Da ni'n dawnsio ar y dibyn.
Gei di boeri a brathu a byw’n frwnt yn y baw,
Does dim tric i fyny 'n llewys.
Dilyn yr un a gwn yn ei law,
Ai dyma’r byd da ni'n ei ddewis ?
Gei di gymryd i ffwrdd ein cynefin,
A fydd rhywun yn siŵr o dy ddilyn,
Da ni’n frodyr i gyd, does dim gelyn,
A nid aur yw popeth melyn.
|
||||
2. |
Bach O Hwne
02:42
|
|||
Bach o Hwne
Yn y gwynt a’r glaw mân da ni’n picied lawr i'r dre ,
Ble mae’r pobol bach yn byw, ma na rhywbeth mawr o’i le.
Gwrando ar y radio, gyrru, gyrru, gyrru dros y bryn.
Hei bois dwi di dod heb bres, be da ni’n mynd I neud am hyn.
Gai Bach o bach o hwne,
Bach o bach o hwne
Bach o bach o hwne
Bach o bach o hwne.
Dipyn bach o cheaky boi sy’n licio amser da,
Os oes gen ti ddigon i rannu sut fedri di ddeud na,
Ti’n werth y byd, man, ti’n edrych ar ôl ffrind,
Ar i fyny, byth i lawr ble bynnag wyt ti’n mynd.
Gai Bach o bach o hwne,
Bach o bach o hwne...
Reggea ar y Radio,
Pawb yn dechre gwrando,
Wastad hefo gwên ,
ar ol bach o Mary Jane,
Gyrru gyrru gyrru gyrru bach o awyr las,
Troi y speakers fyny dwisio teimlo sŵn y bas.
Bach o bach o hwne
Bach o bach o hwne...
|
||||
3. |
Jericho
03:19
|
|||
Jericho
Diffodd y golau, cau y llen, dal i chwifio’r faner wen.
Tu hwnt i waliau jericho, heddwch a helynt yn mynd a dod.
Yn y tywyllwch ers amser hir, colli rhyddid mewn anial dîr.
Yng nghysgod sycamorwydden nawr, mae’r faner wen ar y llawr.
Ti’n well os nad wyt ti’n gwybod,
A smalio fod ddim byd yn bod,
Ble dyfai’r palmwydd yn eu tro,
Tu ôl i waliau Jericho.
Yn nyffryn y Iorddonen ddofn, mae’r pobl nawr yn byw mewn ofn
Israel ac America, di dod i ddwyn Palesteina,
Trwy lygaid baban mae pawb yn un, Estron ddyn yn wlad ei hyn.
Pobl Allah a pobol Dduw, i gyd yn rhan o ddynol ryw.
Ti’n well os nad wyt ti’n gwybod,
A smalio fod ddim byd yn bod,
Ble dyfai’r palmwydd yn eu tro,
Tu hwnt i waliau Jericho.
Mae ‘na reswm am bod dim, Duw yn testio nerth ei rym,
Rhwng Zion, Babylon a Iesu Grist, safai hoel ei hanes trist,
Plentyn Ifanc a gwn yn ei law, gwaed yn llifo fel pridd yn y baw,
Weiren bigog a gynnau dur, dilyn llwybr enaid pur
Ti’n well os nad wyt ti’n gwybod,
A smalio fod ddim byd yn bod,
A’r goeden palmwydd yn ein cof,
Tu ol i waliau Jericho.
|
||||
4. |
Glawio
03:35
|
|||
Glawio
Mynd adref am yr haf ble mae bywyd yn braf,
Haul ar y mynydd ac yr awyr yn las,
Pawb yn gwenu ac y neb yn gas,
Bennu ar y straen a gadael y ras.
Dod at ein gilydd pobl yn y cae,
Gwydrau yn llawn ac y pawb ar y high,
Blodau yn tyfu a’r haul yn tywynnu,
Dawnsio a canu a pawb ar i fyny.
Edrych i fyny be sy’n dod yn awr ?
Lawr ddaw y glaw sydd yn tynnu ni i lawr
Cymylau yn y nen uwch ein pen
Glaw, glaw, glaw yn dod i lawr, lawr, lawr.
Cymylau’n dechrau cilio ar awyr yn dechrau clirio,
Edrych i fyny be sy’n nol ar y mynydd ?
Glaw ar y llawr ond yr haul yn tywynnu,
Rhoi’r miwsig ‘nol ar a dod allan o’r car.
Glaw dan draed ond miri yn yr aer,
Enfys yn yr awyr fatha bwa saeth,
Pawb yn hapus a pobol ar y traeth,
Glaw ar y llawr ond does neb ddim gwaeth.
Edrych i fyny be sy’n dod yn awr ?
Lawr ddaw y glaw sydd yn tynny ni i lawr
Cymylau yn y nen uwch ein pen
Glaw glaw glaw yn dod i lawr lawr lawr
Dod at ein gilydd pobl yn y cae,
Gwydrau yn llawn ac y pawb ar y high,
Blodau yn tyfu a’r haul yn tywynnu,
Dawnsio a canu a pawb ar i fyny.
Glaw dan draed ond miri yn yr aer,
Enfys yn yr awyr fatha bwa saeth,
Pawb yn hapus a pobol ar y traeth,
Glaw ar y llawr ond does neb ddim gwaeth.
Edrych i fyny be sy’n dod yn awr ?
Lawr ddaw y glaw sydd yn tynny ni i lawr
Cymylau yn y nen uwch ein pen
Glaw glaw glaw yn dod i lawr lawr lawr
|
||||
5. |
Dal yn Dyn
03:15
|
|||
Dal yn Dyn
Ti’n trio gweithio’n galed ond mae’r byd yn troi’n rhy chwim,
Ac yna daw y nos a dy adael di a dim,
Mae’r byd yn dal ru’n fath, ond tisio pethau gwell,
Ti’n gaethwas yn yr ogof ac yn dal yn stuck mewn cell.
Ond ti’n dal yn dyn, ti ’m isio gadael fynd, o na.
Gen ti popeth ti ‘rioed angen ond ti wastad isio mwy,
Rhoid cyllell yn y cacen ond ti’n bwyta hefo llwy,
Sbïo'i fyw dy lygaid a mae’r drych yn syllu’n nôl,
Rhoid popeth yn ei le ond gadael llanast ar dy ôl.
Ond ti’n dal yn dyn, ti ’m isio gadael fynd, o na.
Yn rhywle mae na heddwch, ond helynt sy’n dy ben,
Ti’n numbian yn y nyth ac yn aros yn y nen,
Dechrau colli gafael a ti methu ffeindio’r gair,
Oes ‘na emyn yn dy ymestyn, wyt ti’n cofio baban Mair.
O Neddfol Tad, Dwyt ti ddim digon da.
Dal yn dyn, Ti ’m isio gadael fynd.
|
||||
6. |
||||
Aros i weld
Wrth i ti edrych i fy llygaid i,
Wyt ti’n gweld beth o ni pan o ni’n iau,
Pan odd o jest nin dau.
Paid gadael i’r byd fy niflannu i,
Dwi’n dal i gredu fo ni’n rhydd,
Paid colli ffydd.
Aros i weld sut fu ni yn y bore,
Digon hawdd anghofio yn y tonnau,
Dwi ‘sïo'i ti fod yn hapus wrth ein boddau,
Aros i weld, Aros i weld.
Oes yna rywle tisio mynd ?
Gad i mi ddod gyda ti fy ffrind
Dwim isio mynd fy hun
Maddeu i fi os wyt tin teimlo’n gaeth,
Wyt tin cofior mor y tir ac y traeth,
Cyn i ni fynd yn waeth.
Aros i weld sut fu ni yn y bore,
Digon hawdd anghofio yn y tonnau,
Dwi ‘sïo'i ti fod yn hapus wrth ein boddau,
Aros i weld, Aros i weld.
Dwi’n dechrau dallt, dwi’n sylweddoli,
Dwi’n gally bod yn fwrn arnat ti,
A ti arnaf fi.
Camu yn nol a dwi’n gweld yn glir,
Dwi’m yn gwybod bellach be sy’n wir,
Mai ‘di bod yn rhy hir.
|
||||
7. |
G.D.W
03:17
|
|||
Gwerthfawrogi Dy Wlad
Pan mae pawb ti erioed ‘di cwrdd,
yn trio rhedeg ffwrdd,
A’r byd yn troi’n rhy chwim,
yn dy adael di a dim.
Drycha i ffwrdd o’r llawr,
cyn y noswyl mae na awr,
Ble mae’r oren ac y glas,
yn yr awyr ganol haf.
Dos i ffwrdd, dos allan am ryw funud bach,
Gwerthfawrogi dy wlad, am ryw funud bach.
Pan mae popeth yn too much,
A gormod ar dy blât,
Ti yn cyrraedd top dy gêm,
ond yn baglu dros y giât,
Pam ti’n dechrau teimlo ar i lawr,
a ddim byd yn taro'r spot,
Malu cachu ar y sgrîn,
di cael llond bol o’r cwbl lot
Dos i ffwrdd, dod allan am ryw funud bach,
Gwerthfawrogi dy wlad, am ryw funud bach.
Gwerthfawrogi dy wlad, am ryw funud bach.
|
||||
8. |
Awen
03:58
|
|||
A.W.E.N
Teimlo'r Awen sy’n dy gymryd di,
Trwy’r anialwch ble mae’r nos yn hir,
Dim byd o’i le a mynd gyda hi,
Neb o gwmpas ond yn gweld yn glir.
Teimlo’r Awen, Teimlo’r Awen.
And With Every Neighbor,
Aiming With Endless Nearness,
Amazing World Ending Now,
Teimlo’r AWEN.
You take the world on your shoulders,
And hold a sign that says do not speak,
Your relentlessly putting up boarders,
And complain that the ocean’s too deep,
You don’t want to give any orders,
But insist that we all hear you speak,
Give thanks to the world and its wanders,
Give to the poor what you took from the weak.
Now bodies pile up on your doorstep,
With pockets too empty to sweep,
And under you rug theirs a vortex,
Where the willows and widows can weep,
And voices too old for your pitty,
And their blankets are made for the streets,
Beyond reason your clever and witty,
They won’t notice the blood by your feet.
|
||||
9. |
Riddim Rock Go Iawn
03:40
|
|||
Riddim Rock Go Iawn
Real Rock Riddim yn rhedeg yn fy ngwaed,
Sefyll ar fy nwylo a menig ar fy nhraed,
Di popeth ddim mor hawdd a botwm ‘dan dy fawd,
Dwi’n meddwl am y pethau bach sy’n poeni pawb.
Rho i mi Reggae Riddim, breuddwydio sŵn gitâr,
Gore’n byd rhoid gorffwys i fy llygaid sgwâr,
Dwi’n methu y mynyddoedd a hiraeth am y môr,
A’r adar bach yn canu yn y coed fatha côr.
Dwi isio mynd allan heno, ond ddim heb Meri Jên,
Dwi’n licio sut mai ‘n neud fi deimlo wastad hefo gwên,
D'ir pubs ‘ma byth yn chwarae Riddim Rock go iawn,
A finnau wedi bod yn paratoi trwy’r prynhawn.
O o o o ar y Riddim Rock go iawn,
O o o o gwrando ar y Riddim Rock go iawn.
Aur y byd yw’r miwsig sy’n codi calon las,
Troi y speakers fyny dwi ‘sio teimlo sŵn y bas.
Dawnsio yn y gegin neu’n gyrru yn y car,
Lle bynnag fyddai’n chilio mae ‘na wastad miwsig ar.
Di trio heavy metal, a jazz, punk, soul a pop,
Ond ‘snam byd yn taro’r spot fatha reggae one drop,
Gai byth o fy siomi, fydd fy enaid byth yn llawn,
Nes fyddai wedi gwrando ar y Riddim Rock go iawn.
O o o o ar y Riddm Rock go iawn,
O o o o gwrando ar y Riddm Rock go iawn.
Hedfan yn y gofod fel seren yn y nen,
Atgofion fel galaethau yn llenwi'm mhen,
Methu mynd i gysgu, dwi’n clywed atsain y beat,
Waiting for the bass to come and knock me off my feet.
Dilyn llwybr llaethog sydd yn ein tywys ni,
Trwy anturiaethau amser cyn sylweddoli,
Fod na reswm am fodolaeth, pob seren, môr a galaeth,
Wedi 'iw gosod yn eu lle er mwyn reggae heb amheuaeth.
Byw a bod i ddod o hyd i enaid rhydd,
Anodd yn y dechrau ond fe ddaw ryw ddydd,
Eistedd rownd y tân yn canu a chwerthin,
Pawb yn llawn direidi pasio’r mwg a’r gwin.
O o o o ar y Riddm Rock go iawn,
O o o o gwrando ar y Riddm Rock go iawn.
|
||||
10. |
Curo ar y Drws
03:30
|
|||
Curo ar y drws
Ti’n hoffi sôn amdan dy hun,
Ble ti ‘di bod a lle ti’n ffitio yn y llun,
Hanesion trist y dyddiau ffôl,
Ar creithiau dyfn sy’n dy ddal di yn ôl.
Tisio mynd nôl i ddyddiau cynt,
Agor dy adain a dilyn y gwynt,
Rwan mae’r llefydd da I gyd ar gau,
Dim ond ti, ar nos yn parhau.
Curo ar y drws ac fe ddaw hogan tlws cyn y bore,
Mae caru’n well na cwsg, rhaid ‘chi gau y drws ar eich hole.
Rwan sgen ti ddim byd gwell i neud,
Ti’n poeni gormod am be mae pobol yn ddeud,
Ti’n byw yn dda ond ti ar chwâl.
Y cythraul ar dân ac y diafol yn dial.
Curo ar y drws, curo ar y drws...
Curo ar y drws ac fe ddaw hogan tlws cyn y bore,
Mae caru’n well na cwsg, rhaid ‘chi gau y drws ar eich hole.
|
||||
11. |
Dyfalu y Dyfodol
04:04
|
|
||
Dyfalu y Dyfodol Lyrics
Gen ti un peth i gynig a mae hyny yn ddigon i mi
Hawdd i fy atynu aros fyny tan chwarter i dri
Dim byd yn bod fo hyny wedi glynu i dy gwmni di
Mae'n dawel yn trefi ond ma nma ganu yn ein pentre ni
Ma na wastad diwrnod newydd Os ti'n poeni am yfory
Awn ni hefoin gilydd
Y nos yn troi yn freuddwyd
Di laru ar fy nghysgod
cael digon o'm ngydwybod
Paid gadael i hyn ddarfod
Gewn ni aros yn y cyfnod
Gen ti un peth i gynig a mae hyny yn ddigon i mi
Hawdd i fy atynu aros fyny tan chwarter i dri
Dim byd yn bod fo hyny wedi glynu i dy gwmni di
Tan Mae'r haul yn tywynnu dim dibynnu ar neb ond ni
Ymestyn ein gorwelion
Paid credur ofergoelion
Ar antur arallfydol dim on ti a fi ar ol
Bodoli yn yr eiliad calon llawn o gariad
Byw yn y presenol paid dyfalu y dyfodol
|
Morgan Elwy Wales, UK
From the hills of West Clwyd, North Wales Morgan Elwy makes welsh Language rock reggae music with conscious lyrics rooted deep in peace and positive vibes with memorable melodies and wholesome harmonies.
Streaming and Download help
If you like Morgan Elwy, you may also like:
Bandcamp Daily your guide to the world of Bandcamp