1. |
Rubadub Cymraeg
03:22
|
|||
Rubadub Cymraeg lyrics
Cant a miliwn enaid
Yn disgwyl am ryddhâd
Cael digon o soul ag RnB
A gormod o ganu gwlad
Dwisio rubadub rock reggae
Rho fi imi drwy’r dydd a’r nos
Snam byd yn dod yn agos
At extra spicy reggae sauce
Ma rubadub yma i aros
Pob diwrnod or wythnos
Ma rhywbeth newydd yn ymddangos
Ymusg y grug ar y rhos
Clywaf ganu brau yr eos
Yn gofyn be da ni’n ymladd dros
Da ni’n aros am gariad a heddwch
Ond mae’r neges ar goll yn y post
Reggae rubadub ar y mic dwi’n MC
One drop riddim di cael fi’n teimlo’n irie
Freedom soundsystem in a bangor city
Trebble up y Skank ar yr un dau tri
Tonnau arallfydol yn cario cariad a ffydd
Gwrando ar y reggae gei di heddwch bob dydd
Dwfn yw sŵn y bas i gael dy enaid yn rhydd
Dim ymladd yn y ddawns dim ond cariad sydd
Say Say didli om bam bay
Un waith eto I say…
Dwisio rubadub rock reggae
Rho fi imi drwy’r dydd a’r nos
Snam byd yn dod yn agos
At extra spicy reggae sauce
Ma rubadub yma i aros
Pob diwrnod or wythnos
Ma rhywbeth newydd yn ymddangos
Ymusg y grug ar y rhos
Clywaf ganu brau yr eos
Yn gofyn be da ni’n ymladd dros
Da ni’n aros am gariad a heddwch
Ond mae’r neges ar goll yn y post
Reggae rubadub os ti’n teimlo dan straen
One drop beat sy’n blwmp ac yn blaen
Hifi ty coch yn mynd yn erbyn y graen
Skankio ar y traeth lawr yn Porthdinllaen
Dyma sut ma neud hi’n gogledd cymru
Ein geiriau syn grefftus a’n gwreiddiau sy’n gryf
Mwy gwreiddiol a dyfnach na cymoedd Caerdydd
O ddyfnder y llynoedd i gopa’r mynydd
Yr awen sy’n llifo trwy ein afonydd
I one drop beat y cydweithredydd
Llofrydd y Geiriau sy’n hollol llawrydd
Ymroddgar i fod yn top llefarydd
Reggae rubadub ar y mic dwi’n MC
One drop riddim di cael fi’n teimlo’n irie
Freedom soundsystem in a bangor city
Trebble up the Skank ar yr un dau tri
Tonnau arallfydol yn cario cariad a ffydd
Gwrando ar y reggae gei di heddwch bob dydd
Dwfn yw sŵn y bas i gael dy enaid yn rhydd
Dim ymladd yn y ddawns dim ond cariad sydd
ENGLISH TRANSLATION
Rubadub Welsh lyrics
A hundred and a million souls
Waiting for release
Get plenty of soul with RnB
And too much country music
I want rubadub rock reggae
Give me to me all day and night
Nothing comes close
To extra spicy reggae sauce
Rubadub is here to stay
Every day or week
Something new appears
Among the heather on the moor
I hear the nightingale's song
Asking what we are fighting for
We are waiting for love and peace
But the message is lost in the mail
Reggae rubadub on the mic I'm an MC
One drop riddim didn't get me feeling irie
Freedom sound system in a bangor city
Trebble up the Skank on the one two three
Otherworldly waves carrying love and faith
Listening to the reggae you will find peace every day
The sound of the bass is deep to set your soul free
No fighting in the dance there is only love
Say Say didli om bam bay
One more time I say…
Reggae rubadub if you're feeling stressed
One drop beat is straightforward
red house hifi going against the grain
Skanking on the beach down in Porthdinllaen
This is how to do it in North Wales
Our words are crafted and our roots are strong
More original and deeper than the Cardiff valleys
From the depths of the lakes to the top of the mountain
The inspiration that flows through our rivers
To the one drop beat of the collaborator
Murderer of words is completely free
Dedicated to being a top spokesperson
Reggae rubadub on the mic I'm an MC
One drop riddim has got me feeling irie
Freedom sound system in a bangor city
Trebble up the Skank on the one two three
Otherworldly waves carrying love and faith
Listening to the reggae you will find peace every day
The sound of the bass is deep to set your soul free
No fighting in the dance there is only love
|
||||
2. |
Gyrru Ar Y Ffordd
03:05
|
|
||
LYRICS
Gyrru ar y ffordd ar y lôn dwi byth yn llonydd
Mynd ymusg y pobl ar y traffydd ar y lonydd
Mynd i lefydd pell bob tro'n edrych am beth gwell
Dwi'n teimlo mor aflonydd, dwi mor fodlon a'r afonydd
O un dydd ar y tro. deffro, cyffro dim gorffwyso
O fel drws heb glo. synfyfyrio, trawsgyfeirio
Ar y lôn ers amser maith does nam diwedd ar y daith
Mynd i ble maer gwaith ben fy hun ma hynyn ffaith.
Byth yn cael llond bol does nam byd all ddal fin nol,
Cymryd camau astronyddol newid statws daearyddol,
Diwrnod braf
yn ganol yr haf
Fyddai'n mynd heb stop
Fel y beat one drop
Neu noson oer
Heb haul na lloer
Dianc o'r ras
I rythm y bas
Trwy'r bore ar prynhawn yn y car maw hynyn iawn
Neud beth dwi'n mwynhau sy'n cadw'n nghalon i yn llawn
Ddim bob tro'n lwybr hawdd mor ddibynadwy a'r hinsawdd
Un foment ar y copa yna ben i lawr yn y clawdd.
|
||||
3. |
Dyfalu y Dyfodol
04:04
|
|||
LYRICS
Gen ti un peth i gynig a mae hyny yn ddigon i mi
Hawdd i fy atynu aros fyny tan chwarter i dri
Dim byd yn bod fo hyny wedi glynu i dy gwmni di
Maen dawel yn trefi ond ma nma ganu yn ein pentre ni
Ma na wastad diwrnod newydd
Os ti'n poeni am yfory
Awn ni hefoin gilydd
Y nos yn troi yn freuddwyd
Di laru ar fy nghysgod
cael digon o'm ngydwybod
Paid gadael i hyn ddarfod
Gewn ni aros yn y cyfnod
Gen ti un peth i gynig a mae hyny yn ddigon i mi
Hawdd i fy atynu aros fyny tan chwarter i dri
Dim byd yn bod fo hyny wedi glynu i dy gwmni di
Tan Mae'r haul yn tywynnu dim dibynnu ar neb ond ni
Ymestyn ein gorwelion
Paid credur ofergoelion
Ar antur arallfydol
dim on ti a fi ar ol
Bodoli yn yr eiliad
calon llawn o gariad
Byw yn y presenol
paid dyfalu y dyfodol
|
||||
4. |
|
|||
ZION (lyrics)
Gad i mi weld ti yn y bore
Oes na dwll yn dy wely di?
Dydwi ddim wastad ar fy ngore
Paid cau y drws arna fi
Dilyn y stormydd dros y twyni
Ble gladdai fy mreuddwydion i
Paid gadael i'r byd dy ddigaloni
Safai am byth wrth dy ochr di
O Zion
Paid mynd nôl i Babylon
Sibrydion
Sy'n gyrry'r cariad hon
Fe ganwn dros wlad dros serch dros hiraeth
Fy fynnwn am glust i'n clywed ni
Ysbrydion yw'r unig ysbrydoliaeth
Sibrydion yw'r oll a glywaf i
O Zion
Paid mynd nôl i Babylon
Sibrydion
Sy'n gyrry'r cariad hon
Curiad calon cariad
Ni yw'r Cymry llawn Cymeriad
Brodor yw ein brodur
Awn at wreiddiau yr antur
Ble ddaw ein alawon
Bob elw i Babylon
Fel engyl yr ymylon
Dilyn atsain llwybrau Zion
|
||||
5. |
Porthdinllaen
04:19
|
|||
Mor rhydd yw’r dydd on dwi yma’n dal i aros
Aros am ryddid aros am dy gwni di
Mynyddoedd maith yw dringo ond dwi mor llonydd
Ond fyddai byth yn llonydd yn fy meddwl i
Fe fydd na one drop beat i’n tywys tua’r nefoedd
Pryd ddaw’r dydd i farnu’n dyddiad drwg
Ond ar dyddiau da fydd y reggae yn ein dangos
Sut i gadw cariad trwy y mwg
Byth yn stopio bob symud
Bob tron symud ymlaen
Dwi’m yn meindio cymud
Byw yn erbyn y graen
Cariad yw ledaenu
Datgelu haen ar ol haen
Byth yn rhy blaen
Datglymu’r straen
Hel geiriau gwir o heddwch
Ond sgen ai’m ddim fy hun
Os ti’n aros ddigon hir
Fyddai’n dwad dros y bryn
Ar y one drop beat
Dyna sgen ai fan hyn
Digon yw rannu
Llond dyfroedd yn y llyn
Yr unig ffordd i gamu
Yw camu ymlaen
Derbyn pawb a popeth
Byw mewn Bendith dim straen
Dilyn Ragamuffin o
Jamaica i sbaen
Casglu y casineb
Ai hel o lawr y draen
Erioed ti teimlo cariad
Fel hyn or blaen
Ma na reggae ar y traeth
Lawr yn Porthdinllaen
Dwin paratoi ir parti yn y gofod
Curar drums dora i mi flas.
Yn y ddaws dir heddwch byth yn darfod
Dewch ymunwch yn ein cymdeithas
Ac ar dydd y farn fe fydda i yn barod
Fyddai’n barod am dy gariad am y gras
Y gras sy’n tywys tuag tragwyddoldeb
Anfarwol yw y dub, y beat ar bass
|
||||
6. |
Brynsiencyn Blues
02:48
|
|||
Dal i aros am yr amser iawn i brofi fy anhawster
Popeth dal mor ddu a gwyn, sut bo ni dal yn sownd fel hyn
Ta ni drio stopio crio bell or copa dal i ddringo
Cym fy ngwen a chloi’n y ty ar y wal fel coesau pry
Man says take it on the chin, look at the mess you’ve put it in
Pryd gawn ni fynd yn nôl, Côr dot com fel crack mewn sbectol
Dal y peswch cau’n y jar, gyrru bus I fewn ir bar
Credu bod na gwell I ddod ar gefn mulod pererindod
Ma na reswm am bob dim, Duw yn testio nerth er rym
Dwisio munud gad fi fod, syllu nes dwi’n hollol bored
Sgwennu geiriau crafu eiliau, pob un sgwrs yn troi yn ffrae
Hanner oes yn stuck mewn sgrin, sais ar y traeth a pawb yn flin
Blodau gwyllt yn llenwir ardd haul du ar popeth hardd
Poeni dim am bryd a gwedd dim cynghanedd rhwng fy nannedd
Gwyrdd Di flas, calon las, gwaed coch yn mynd ar ras
Gyrru gif I bictro’r boen, crafu’r cnawd o dan fy nghroen
Odl eiriau fel cach mewn gwair troi enaid rhydd yn destyn ffair.
Byth bythoedd Amser hir, Cofia cofio dal dy dir
Mali’n malu’r hen guitar, Jack yn gwisgo’i ddillad sbar
Diawlio’r gwaith sy’n gadael craith , I dalu’r bills o saith tan saith
Llygru’r byd i dalu lladron, Bob tro’n ormod byth yn ddigon
Bwysig cadw gwyneb clên, Gwagio’r bank i ddal y train
A’i dyma beth oedd darlun Duw? Dim byd yn cosbi fel cosdau byw
Gwneud y mwyaf o’n nyddiau rhydd, A 420’n dod yn gynt bob dydd.
|
||||
7. |
Dim Rhyfel
03:28
|
|||
Un ffordd i ryfel
Does dim ffordd allan o’r gwir
Paid ofni sŵn y ffrwydro
Cadwa dy gydwybod yn glir
Cadw ffwrdd o’r rhyfel
Ma nhw di bod yn brwydro’n rhy hir
Ond paid a colli dy afael
Ar obaith am heddwch i’r tir
Mae’n rhaid rhoi gorau i’r ymladd
Dwi’n ofni mi fydd hi’n rhy hwyr
Dwi wedi rhagweld y canlyniad
Fydd popeth wedi difetha’n llwyr
Deud na! Deud na i’r rhyfel
Dydio’n gwneud dim synnwyr
Cartrefi pobol yn dymchwel
Anibendod i’r annibynnwyr
Does dim cryfder heb gyfiawender
Dim synnwyr ir holl drais
Dim heddwch mond tawelch ir rhai syn codiw llais
Gofyn oes na reswm pam na allwn fyw ynghyd
Rho i mi ateb i’r creulondeb sydd yn rhedeg y byd
Rhyfel ar y radio sy’n gwaethygu,
Newyn ar y strydoedd yn ymledu,
Ar goll mewn byd sydd ben i lawr a popeth wedi drysu,
Dim dianc o’r cewri’n malu cachu,
Dim ffordd i ryfel
Mae’n hen brys i’r llwybr na gau
Sbiwch ar y llanast sdi’w adael
Pawb yn gwbod mae’r brwydr di’r bai
Llofrydd newyn dyddiau gwael
Sna neb yn poeni dim am y rhai
Sydd rwan yn gorfod gadael
Eu steydoedd, eu cartref a’u tai
Ar plant yn gorfod ffoi
Dim dŵr na bwyd yw gnoi
A babylon yn elw
Bob tro’n cymryd byth yn rhoi
A bywydau bach y bobl yn cael eu cipio yn y tân
Tom ni tawel wediw claddu dan yr eira mân
Rhyfel ar y radio sy’n gwaethygu,
Newyn ar y strydoedd yn ymledu,
Dim dianc or cewrin mali cachu
Ar y ffôn y cyfrifiadur neu’r teulu,
Ac yn erbyn y graen fe fyddwn ni yn tynnu,
Ar goll mewn byd sydd ben i lawr a popeth wedi drysu,
Y cariad pur syn ein atynu,
Drwy bendith a gras fydd Babylon yn Pydru.
|
||||
8. |
||||
FEL HYN - LYRICS
Swn y beat ar bass ar waelod i'n sodlau,
Ein enaid ar agor a'n llygaid ar gau
Rhythm o'n pen trwy ein gwythiennau
Awen beat a Go ar goll yn y cae.
Pa hawl sydd gen ti I feirniadu
Pethau hyfryd yn cael eu dedfrydu
Amser braf y gaf wrth arafu,
Wyt ti'n genfigenus fo 'ni fyny fry?
Oes gen ti broblem hefo CBD?
Ydio'r blodyn syn dy drwblu di?
Dim pawb sydd isio bod fel bob Marley,
Live and Let live paid a pendroni.
Ond rywsut rwyt ti isio fy rhwystro i
Bywyd y don sy'n bwydo'n enaid ni
Dim Disgwyl i ti fod fel Pen Dub A fi
Ymunwch a hwyl ir gwyl a mynd gyda'r lli
Y tap yn rowlio fel hyn
Synfyfyrio fel hyn
Dal i rocio fel hyn
Y mic dwi'n lleisio fel hyn
Ar yr offeryn fel hyn
Canu fel deryn fel hyn
A pawb yn dilyn fel hyn, fel hyn, fel hyn.
Rho I mi flas o'r dub beat a bass
Llwyfan a speakers fan hyn yw ein plas
Dewch pab ynghyd pob mynydd a stryd
Skancwyr I gyd da'n gilydd 'run pryd.
Fel cae llawn o ŷd I bawb yn byd
Gobaith syn machlud mewn celfyddyd
Cawn flodyn bach hyfryd gan hadyn bach hyd
Hwn yw ein dydd cawn fod yn rhydd
I bawb sy'n gwybod be diw'n siarad am
O Lansannan draw I amsterdam
Cam wrth gam fesul gram
Pawb fel un da ni'n tanio'r fflam
Os ei di heibio bryniau gwyllt yr Eryri
Ar lwybrau'r derwydd lawr trwy Pwllheli
I'r pub ble mae pen dub yn darparu
Reggea ar y traeth fel yn y Caribi
Fe gei di werth dy daith a mwy o beats one drop
Skankio a stompio ir cur yn ddi-stop
Bendigedig yw y rig sy'n dirgrynu
Mor osgeiddig a swynedig drwy'r nos ar dydd
Y tap yn rowlio fel hyn
Synfyfyrio fel hyn
Dal i rocio fel hyn
Y mic dwi'n lleisio fel hyn
Ar yr offeryn fel hyn
Canu fel deryn fel hyn
A pawb yn dilyn fel hyn, fel hyn, fel hyn.
Swn y beat ar bass ar waelod i'n sodlau,�
Ein enaid ar agor a'n llygaid ar gau
Rhythm o'n pen trwy ein gwythiennau
Awen beat a Go ar goll yn y cae.
|
||||
9. |
Supersonic Llansannan
03:08
|
|||
LYRICS
Oriau caled ar y tir
O pam fod y dydd mor hir
Dwi’n gweithio ers cyn y wawr
Heb baned i olchi’r mwg i lawr
A’r dydd sy’n dechrau troi yn graith
Dim clocio ffwrdd tan chwarter wedi saith
Mond un peth sy’n codi’n enaid gwan
Ar ol cau y siop gai fynd am beint i Llan
Where we come from, where we come from
Supersonic Llansannan, supersonic llansannan
Nos wener wallgo yn y red
Llond y tanc ond eto dal i yfed
Ond be di point bod adre home alone
A pawb yn canu please don’t take me home
Bore sadwrn dwi’n codi’n hwyr
O neithiwr oedd pawb di meddwi’n llwyr
Boots ymlaen mae’n amser cicio pêl
Mae Llan yn chware hogie Nantlle vale
Where we come from, where we come from
Supersonic Llansannan, supersonic llansannan
Gall bywyd fod mor rhwystredig
A weithie yn flinedig
Os w ti yn sychedig
Tyd i wrando ar y miwsig
Teimlo’n fendigedig
Yn y pentre bychain gwledig
Mae’r cwmni yma’n donig
Neud fi deimlo’n supersonic
Mae’n anysgrifynedig
Y cariad anweledig
Mae’r cwmni yma’n donig
Neud fi deimlo’n supersonic
Where we come from, where we come from
Supersonic Llansannan, supersonic llansannan
|
||||
10. |
||||
Aberyspliff
Ave a quick spliff yn Aberystwyth
Os dwi’n gadael rwan byddai yna cyn wyth
Amser esmwyth ar y blodyn ac y ffrwyth
Os gen ti’m byd i danio, paid poeni genai llwyth
Bwm Bwm caled y dwr yn taror careg
Erydu trwy ddaeareg i ddeimensiwn is atomeg
Bwm Bwm bass y llif yn newid pace
Y snare i adio sbeis sydd yn neud fi deimlo’n neis
Rata tat ta meddai mr Hi Hat
Detholydd
Detholydd Cadw’r beat yn llonydd
Selector selector cadw’r beat yn llonydd
Llifo fel afonydd da ni’n cadw’r beat yn llonydd
Es i lawr i London Town
Y ddinas fawr where the beat goes down
I’r jazz cafe but its not for me
Ma’e music yn oce ond dio’m yn cyffwrdd f’enaid I
Mynd yn ol ir llan ble does dim pobl yn bob man
I ffwrdd o swn dref sy’n mynd bang bang bang
Driving shades on a gwallt i lawr
Rho’r cwrw yn y fridge fyddai yna mewn awr
Brenin ar y mic, llofrydd ar y llawr
Mor rhydd ag y mynyddoedd ar moroedd mawr
Henffych gyfeillion Henffych mynydd Zion
Ymestyn ein gorwelion I orchfygu Babylon
A Oes Heddwch? Rhoid terfyn i’r tawelwch
Os gwrandwch fe welwch Olau mewn tywyllwch
We nice up the bass up in the place
Reggae ar y tafod fel siwgwr a seis
Shwbibabe syma o dy le
Clyw y tonnau’n galw or gogledd ir De
Reggae yn y boch yn Canu fel Cloch
Skankio ar y traeth hefo HiFi Ty coch
Gogledd Cymru ble mae’r bassline yn gryf
If U Know U know, mi fydd y reggae ar y go
|
Morgan Elwy Wales, UK
From the hills of West Clwyd, North Wales Morgan Elwy makes welsh Language rock reggae music with conscious lyrics rooted deep in peace and positive vibes with memorable melodies and wholesome harmonies.
Streaming and Download help
If you like Morgan Elwy, you may also like:
Bandcamp Daily your guide to the world of Bandcamp