Real Rock Riddim yn rhedeg yn fy ngwaed,
Sefyll ar fy nwylo a menig ar fy nhraed,
Di popeth ddim mor hawdd a botwm ‘dan dy fawd,
Dwi’n meddwl am y pethau bach sy’n poeni pawb.
Rho i mi Reggae Riddim, breuddwydio sŵn gitâr,
Gore’n byd rhoid gorffwys i fy llygaid sgwâr,
Dwi’n methu y mynyddoedd a hiraeth am y môr,
A’r adar bach yn canu yn y coed fatha côr.
Dwi isio mynd allan heno, ond ddim heb Meri Jên,
Dwi’n licio sut mai ‘n neud fi deimlo wastad hefo gwên,
D'ir pubs ‘ma byth yn chwarae Riddim Rock go iawn,
A finnau wedi bod yn paratoi trwy’r prynhawn.
O o o o ar y Riddim Rock go iawn,
O o o o gwrando ar y Riddim Rock go iawn.
Aur y byd yw’r miwsig sy’n codi calon las,
Troi y speakers fyny dwi ‘sio teimlo sŵn y bas.
Dawnsio yn y gegin neu’n gyrru yn y car,
Lle bynnag fyddai’n chilio mae ‘na wastad miwsig ar.
Di trio heavy metal, a jazz, punk, soul a pop,
Ond ‘snam byd yn taro’r spot fatha reggae one drop,
Gai byth o fy siomi, fydd fy enaid byth yn llawn,
Nes fyddai wedi gwrando ar y Riddim Rock go iawn.
O o o o ar y Riddm Rock go iawn,
O o o o gwrando ar y Riddm Rock go iawn.
Hedfan yn y gofod fel seren yn y nen,
Atgofion fel galaethau yn llenwi'm mhen,
Methu mynd i gysgu, dwi’n clywed atsain y beat,
Waiting for the bass to come and knock me off my feet.
Dilyn llwybr llaethog sydd yn ein tywys ni,
Trwy anturiaethau amser cyn sylweddoli,
Fod na reswm am fodolaeth, pob seren, môr a galaeth,
Wedi 'iw gosod yn eu lle er mwyn reggae heb amheuaeth.
From the hills of West Clwyd, North Wales Morgan Elwy makes welsh Language rock reggae music with conscious lyrics rooted deep in peace and positive vibes with memorable melodies and wholesome harmonies.